Gallwch gadw'r recordiad am bythefnos ar ôl iddo gael ei wneud, ac ar ôl hynny dylid ei ddileu.  
Mae'n well ei gwneud hi’n glir bod y recordiad wedi'i wneud o dan y Drwydded Darllen yn Uchel.   Rydym yn argymell datganiad fel hyn ar y ffeil neu’n agos ati:   Mae'r recordiad NEU’R ffrydiad byw hwn wedi'i ddarparu o dan Drwydded y CLA gyda thelerau defnydd penodol. Mae'r cynnwys yn y recordiad NEU’R ffrydiad byw hwn yn cael ei ddiogelu gan hawlfraint ac, ac eithrio fel y caniateir gan y gyfraith, ni ellir ei gopïo, ei storio, ei gopïo'n electronig na’i rannu fel arall ymhellach, hyd yn oed at ddibenion mewnol, heb ganiatâd pellach ymlaen llaw gan y Deiliad Hawliau.
Dim ond os bydd y CLA yn cysylltu ac yn gofyn i chi ei gofnodi yn ystod un o'n Hymarferion Casglu Data sampl arferol. Fel arall, na.  
Mae'r Drwydded yn cwmpasu rhannu mewnol - drwy eich mewnrwyd ddiogel, er enghraifft. Nid yw'r drwydded hon yn caniatáu i chi roi'r recordiad ar safle cyhoeddus fel YouTube.  
Gallwch, gall arwyddwr gyd-fynd â'r geiriau.  
Gallwch, mae'r drwydded yn caniatáu recordiadau sain a recordiadau clyweledol. Gallwch hefyd roi isdeitlau ar fideos.