Ydych, mae'r Drwydded yn cwmpasu darnau neu'r llyfr cyfan - does dim cyfyngiad ar faint y gellir ei ddarllen mewn recordiad neu gyfres o recordiadau. 
Oes, mae gennym deitlau gan naw cyhoeddwr Cymraeg:  
  • Crown House Publishing 
  • Cyhoeddiadau'r Gair  
  • Graffeg  
  • Gwasg Carreg Gwalch 
  • Gwasg Honno  
  • Gwasg Prifysgol Cymru 
  • Y Lolfa Cyf. 
  • Sianel Pedwar Cymru 
  • Canolfan Peniarth - Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant  
Mae llawer o lyfrau’n cael eu cynnwys, ond nid pob un ohonynt - mae’n rhaid bod y cyhoeddwr wedi cytuno i’r llyfr fod yn rhan o’r cynllun. Gwiriwch y teitl neu’r ISBN yn ein teclyn Gwirio Caniatâd.  
Mae geiriau'r llyfr yn cael eu diogelu gan hawlfraint. Er mwyn gwneud copi – yn yr achos hwn, recordiad – mae angen caniatâd deiliad yr hawliau arnoch. Mae'r drwydded hon yn rhoi'r caniatâd hwnnw i chi, ac yn eich caniatáu i wneud recordiadau o'r fath yn ddiofyn - h.y. nid oes angen i chi ofyn am ganiatâd bob tro. Bydd ffioedd y drwydded yn mynd yn ôl at y crëwr - fel y gallant barhau i ysgrifennu mwy o lyfrau gwych!  
Nac ydy, mae'r drwydded hon yn berthnasol i addysgwr yn darllen yn uchel o lyfr.  
Mae'r drwydded hon yn caniatáu i staff (gan gynnwys athrawon, llyfrgellwyr, cynorthwywyr addysgu) mewn ysgol drwyddedig recordio eu hunain yn darllen yn uchel o lyfrau a gyhoeddwyd gan gyhoeddwyr sy’n cymryd rhan, a rhannu'r recordiad hwn gyda dysgwyr a'u rhieni/gofalwyr.