Skip to main content

CLA launches new Read Aloud Licence with Welsh Local Government Association central agreement

Picture of a young child sitting cross legged on a sofa, wearing headphones and reading from a tablet.

CLA has developed a new Licence that addresses the needs of educators to record reading aloud to their learners. State-funded schools in Wales are the first to benefit from the new rights. 

There’s no question that being read to aloud supports learner development and enhances accessibility. While for a certain generation of us this is evocative of the carpeted and cushioned reading corner in primary school, the ways in which educators want to share access to reading has evolved.   

The tech that educators now have in their toolkit, the move to inspire parents and careers, bi-lingual needs and long-term learner absence have all played a part in making it essential that learners can access recordings of their teachers reading a range of texts. 

Being read to aloud fosters not only literacy skills, but also emotional well-being and development, better accessibility to text, a stronger educator-learner relationship, and a lifelong love of reading for pleasure.   

The copyright in published works has meant that making these recordings would require permission from the rightsholder. And before this year, no blanket licence existed to make getting this permission streamlined and efficient.  Librarian Emily Stannard outlined the difficulties with this situation in her blog post. CLA has therefore responded to sector needs, which were thrown so sharply into focus by the national lockdowns, and worked closely with its rightsholders to develop a solution that can support the needs of learners and ensure intellectual property rights are respected. Schools can now rely on the permissions granted in the CLA Read Aloud Licence, and rightsholders can know they will be fairly paid for the re-use of their work. 

144 publishers have opted their works into the Licence, including nine Welsh language publishers. The first agreement being in Wales has particular resonance, as the growth of Welsh in recent decades is further supported with these new permissions.  

Sharon Davies, WLGA Head of Education, said:

We are delighted to support CLA with the new Read Aloud licence. The inclusion of nine Welsh Language publishers is very pleasing and is a great step forward towards ensuring equity for our Welsh Language learners. We look forward to more Welsh Language publishers coming on board as the initiative grows. 

Catherine Stephen, CLA Head of Renewals & Growth: Education & Public Sector, added: 

We are delighted to have worked with educators and the WLGA to develop a new type of right for CLA, which will ensure that new cohorts of learners are able to enjoy the rich world of books in a whole new way. Playing a small role in the continuing development of everyday Welsh language is humbling, and we hope to continue working with our partners in Wales, and other education partners across the UK, to keep literature at the heart of learners’ educational experience. 

 

CLA continues to work with other UK nations to reach a central agreement on the Read Aloud Licence.  If you would like to express your support, share this news story.  

To find out more about the Read Aloud licence visit: cla.co.uk/cla-products/schools-licence/read-aloud-licence 


Yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint yn lansio Trwydded Darllen yn Uchel newydd gyda chytundeb canolog Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru  

Mae’r Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint (CLA) wedi datblygu Trwydded newydd sy’n mynd i’r afael ag anghenion addysgwyr i recordio darllen yn uchel i’w dysgwyr. Ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth yng Nghymru yw’r cyntaf i elwa o’r hawliau newydd.  

Heb amheuaeth, mae darllen yn uchel yn cefnogi datblygiad dysgwyr ac yn gwella hygyrchedd. Mae llawer ohonom yn cofio gwrando ar stori yn y gornel ddarllen gysurus a chlyd yn yr ysgol gynradd ond mae’r ffyrdd y mae addysgwyr eisiau gwella mynediad at ddarllen wedi esblygu.    

Mae’r dechnoleg sydd bellach ar gael i addysgwyr, yr ymgyrch i ysbrydoli rhieni a gyrfaoedd, anghenion dwyieithog ac absenoldeb tymor hir dysgwyr oll wedi chwarae rhan wrth ei gwneud yn hanfodol bod dysgwyr yn gallu cael mynediad at recordiadau o’u hathrawon yn darllen ystod o destunau.  

Mae gwrando ar rywun yn darllen yn uchel yn meithrin sgiliau llythrennedd, ond hefyd lles a datblygiad emosiynol, gwell hygyrchedd i destunau, perthynas gryfach rhwng addysgwyr a dysgwyr, a chariad gydol oes at ddarllen er pleser.    

Mae’r hawlfraint mewn gweithiau cyhoeddedig wedi golygu y byddai angen gofyn am ganiatâd gan y deiliad hawliau cyn gwneud recordiadau o’r fath. Cyn eleni, nid oedd trwydded hollgynhwysfawr yn bodoli a fyddai’n golygu bod modd sicrhau’r caniatâd hwn yn syml ac effeithlon. Mae’r llyfrgellydd Emily Stannard wedi amlinellu anawsterau’r sefyllfa hon yn ei phostiad blog. Felly mae’r CLA wedi ymateb i anghenion y sector, a ddaeth mor amlwg yn sgil y cyfnodau clo cenedlaethol, ac wedi gweithio’n agos gyda’i ddeiliaid hawliau i ddatblygu ateb a all gefnogi anghenion dysgwyr a sicrhau bod hawliau eiddo deallusol yn cael eu parchu. Gall ysgolion bellach ddibynnu ar y caniatâd a roddir yn Nhrwydded Darllen yn Uchel y CLA, a gall deiliaid hawliau wybod y byddant yn cael eu talu’n deg wrth i eraill ailddefnyddio eu gwaith.  

Mae 144 o gyhoeddwyr wedi dewis cynnwys eu gweithiau yn y Drwydded, gan gynnwys naw cyhoeddwr Cymraeg. Mae’n arbennig o addas mai yma yng Nghymru y mae’r cytundeb cyntaf, gan fod twf y Gymraeg yn y degawdau diwethaf yn cael ei gefnogi ymhellach gyda’r caniatâd newydd hwn.   

Sharon Davies CLLC Pennaeth Addysg  

Rydym yn falch iawn o gefnogi Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint (CLA) gyda’u trwydded newydd, Darllen yn Uchel. Mae cynnwys naw o gyhoeddwyr Cymraeg yn galonogol iawn ac mae’n gam gwych ymlaen tuag at sicrhau tegwch i’n dysgwyr Cymraeg. Edrychwn ymlaen at weld mwy o gyhoeddwyr Cymraeg yn ymuno wrth i’r fenter dyfu. 

 

Catherine Stephen, Pennaeth Adnewyddu a Thwf:  Addysg a’r Sector Cyhoeddus  

Rydym yn falch iawn ein bod wedi gweithio gydag addysgwyr a CLlLC i ddatblygu math newydd o hawl ar gyfer y CLA, a fydd yn sicrhau bod carfanau newydd o ddysgwyr yn gallu mwynhau holl gyfoeth byd llyfrau mewn ffordd hollol newydd. Mae chwarae rhan fach yn natblygiad parhaus y Gymraeg ar lawr gwlad yn brofiad arbennig, ac rydym yn gobeithio parhau i weithio gyda’n partneriaid yng Nghymru, a phartneriaid addysg eraill ledled y DU, i sicrhau bod llenyddiaeth yn parhau i fod wrth wraidd profiad addysgol dysgwyr.  

 

Mae’r CLA yn parhau i weithio gyda gwledydd eraill y DU i ddod i gytundeb canolog ar y Drwydded Darllen yn Uchel. Os hoffech fynegi eich cefnogaeth, rhannwch y stori newyddion hon.  Â